Sylwch na fydd y wefan hon ar gael dros dro o 3pm heddiw.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich amynedd.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Cerdded cŵn

Cofrestru i fynd â chŵn am dro

Os hoffech ddod yn gerddwr cŵn gwirfoddol, llenwch ein ffurflen.

A all unrhyw un a gadwyd ar sesiwn gyflwyno’r llynedd wneud cais eto. Yn anffodus oherwydd nifer uchel y ceisiadau a gawsom y llynedd ni allwn gysylltu â phawb.

  • Rhaid i chi fod dros 18 oed i wirfoddoli.
  • Cofiwch ddod â dull adnabod sy’n cynnwys llun arno gyda chi.
  • Darllen ein Canllawiau ar gyfer pobl sy’n mynd â chŵn am dro Caiff y ffurflenni eu dosbarthu yn y sesiynau sefydlu i chi eu llofnodi, ond mae croeso i chi lawrlwytho a dod â chopi o’r ffurflen sydd eisoes wedi’i llofnodi gyda chi i arbed amser.
  • Ar ôl i chi gwblhau sesiwn sefydlu byddwn yn rhoi rhif personol i chi ac yna byddwch yn gallu mynd â’ch ci cyntaf am dro!
  • Cadwch rif eich cerddwr yn ddiogel gan y bydd angen hyn arnoch bob tro y byddwch yn cerdded ci.

    Cyswllt Brys

    Enw cyswllt:
    Perthynas i chi:
    Rhif cyswllt:

    Llwybrau cerdded lleol sy’n addas i gŵn

    Mae nifer o lwybrau o amgylch y cartref sy’n addas ar gyfer mynd â chŵn am dro.

    • Mae’r Llwybr Elai yn dilyn yr Afon Elái o Fae Caerdydd i Sain Ffagan, taith o tua 7 milltir.

    Lawrlwytho map o’r llwybr  (7.4mb PDF)

    Mae parciau a mannau gwyrddion Caerdydd yn golygu mai’r ddinas hon yw un o’r dinasoedd gwyrddaf yn y DU.

    Mae gwefan Awyr Agored Caerdydd  yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o lwybrau cerdded o 1 milltir o hyd i deithiau hirach sydd oll ar garreg eich drws!

    Baw Cŵn

    Mae’n bosib y rhoddir  Cosb Benodedig o £80 ‘yn y fan a’r lle’ i chi os cewch eich dal yn methu â glanhau baw eich ci.

    Rhoi Gwybod am Faw Cŵn | Talu’r Ddirwy

    Brig

    © Cartref Cwn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan T?m y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd