Niwtro
Rydym yn cynghori perchenogion i fynd â chŵn (benyw a gwryw) i’w niwtro pan fyddant yn 6 mis oed a hŷn. Mae’n lleihau nifer y toreidiau dieisiau a gall helpu eich ci i fyw bywyd hir ac iach hefyd.
Rydym yn niwtro pob ci sy’n cael ei ailgartrefu. Os ydych yn hawlio budd-daliadau, gallwch fanteisio ar ein gwasanaeth niwtro rhad mewn partneriaeth â’r Dogs Trust.
Gellir cynnig gwasanaeth niwtro â chymhorthdal am £50.00 i’r rheiny ar fudd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd, a hynny ar gyfer y mathau canlynol o gŵn yn unig:
- Daeargi Tarw Stafford (Staffordshire Bull Terrier)
- Ci Defaid (Collie)
- Ci Defaid Almaenig (German Shepherd)
- Daeargi Jack Russell (Jack Russell Terrier)
- Malamute a/neu Hysgi
- Rottweiler
- Ci Tarw Americanaidd (American Bulldog)
- Mastiff
- Bridiau croes lle mae’r prif frîd yn un o’r rhai a nodir uchod.
Bydd angen dangos prawf o’ch budd-daliadau presennol ar adeg eich apwyntiad.