Sylwch na fydd y wefan hon ar gael dros dro o 3pm heddiw.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich amynedd.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Gofalu am eich ci

Mynd â’ch ci am dro

Defnyddiwch dennyn bob amser wrth fynd â’ch ci am dro ger ffyrdd, ac mewn ardaloedd eraill lle mae llawer o bobl a cherbydau. Os oes amheuaeth, cadwch eich ci ar ei dennyn.

Osgowch ardaloedd lle mae plant yn chwarae neu ardaloedd lle mae chwaraeon. Os sylwch ar fywyd gwyllt neu anifeiliaid gerllaw, cadwch eich ci ar dennyn a sicrhewch nad yw’n tarfu arnynt.

Mae gwefan Awyr Agored Caerdydd   yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o lwybrau cerdded o 1 milltir o hyd i deithiau hirach i gyd ar garreg eich drws!

Byddwch yn ymwybodol o bobl eraill

Nid yw rhai pobl wedi arfer â bod o gwmpas cŵn. Edrychwch o’ch cwmpas a sicrhewch fod eich ci dan reolaeth ac nad yw’n neidio ar bobl eraill.

Baw Cŵn

Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i lanhau baw eich ci mewn man cyhoeddus. Gallech wynebu dirwy os nad ydych yn glanhau llanast eich ci.

I’r bag ac i’r bin

Ewch â bagiau baw ci gyda chi a gwaredwch faw eich ci yn gyfrifol. Gallwch roi baw ci mewn bag mewn biniau ‘sbwriel arferol, ond os na ddewch o hyd i un, ewch â’r bag adref a’i roi yn eich bag streipiau coch neu eich bin olwynion du.

Iechyd ac yswiriant anifeiliaid anwes

Os oes gennych chi gi, dylech gofrestru â milfeddyg.  Mae angen i chi frechu ich ci a rhoi dosiau cyfnerthol rheolaidd er mwyn iddo aros yn iach.  Dylech hefyd rhoi triniaethau chwain a llyngyr yn rheolaidd.

Mae yswiriant anifail anwes yn ystyriaeth bwysig.  Bydd yn gwarchod yn erbyn ffioedd milfeddyg annisgwyl a’ch galluogi chi i roi’r gofal iechyd gorau i’ch ci pe bai rhywbeth annisgwyl yn digwydd.  Mae amrywiaeth eang o bolisïau yswiriant anifeiliaid anwes i ddewis o’u plith.

Magwch gi hapus a chymdeithasol

Sicrhewch fod eich ci yn gyfforddus ymhlith pobl eraill a chŵn eraill o oedran cynnar; bydd mynd ag ef i ddosbarthiadau hyfforddi yn helpu â hyn.  Os ydych yn cerdded mwy nag un ci, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu eu rheoli nhw i gyd, yn enwedig mewn mannau prysur.

Peidiwch byth â gadael ci ar ei ben ei hun â phlant.  Goruchwyliwch nhw wrth iddynt ryngweithio i sicrhau nad yw plant yn pryfocio nac yn cynhyrfu eich ci newydd.

Rhagor o wybodaeth am ofalu am eich ci

Mae sefydliadau eraill hefyd yn rhoi cyngor defnyddiol ar sut i ofalu am eich ci.

Brig

© Cartref Cwn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan T?m y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd