Sylwch na fydd y wefan hon ar gael dros dro o 3pm heddiw.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich amynedd.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Cofrestru i ailgartrefu

Ni allwch ymweld â’n cytiau heb apwyntiad.

Byddwn yn rhoi apwyntiad i chi ymweld â chi os byddwn yn eich paru ag un.

Gallwch gysylltu â ni i drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ailgartrefu ci

Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd os oes gennych ddiddordeb mewn ailgartrefu ci:

  1. Gwneud gwaith ymchwil ar y brîd, yr oedran a’r maint i weld pa fath o gi allai fod orau i’ch ffordd o fyw.
  2. Penderfynu ar y ci yr hoffech chi ei ailgartrefu.
  3. A fyddech gystal â lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a’i chyflwyno dros e-bost i cartrefcwncaerdydd@caerdydd.gov.uk. Os oes gennych ardd, cofiwch gynnwys lluniau ohoni gyda’ch cais.

Os ydych yn gwneud cais i ailgartrefu ci

Byddwn yn edrych ar eich cais o fewn 2 i 5 diwrnod calendr.

Os cewch eich paru â’r ci y gwnaethoch chi gais amdano, byddwn ni’n cysylltu â chi er mwyn gwneud apwyntiad i chi gwrdd â’ch gilydd.

Os na fyddwn ni’n credu eich bod yn addas i gael y ci rydych chi wedi gwneud cais amdano neu os bydd y ci hwnnw wedi cael ei baru eisoes, byddwn ni’n argymell ci arall os byddwn ni’n teimlo bod gennym ni un a fydd yn addas i chi.

Os na fyddwch yn clywed unrhyw beth o fewn 7 diwrnod calendr, mae’n golygu nad ydych wedi cael eich dewis i ailgartrefu’r ci yr ydych wedi gwneud cais amdano.  Byddwn yn dal i gadw’ch cais ar ffeil i weld a allwn eich paru â chi arall.

Y weithdrefn ailgartrefu

  • Pan fyddwn yn paru ci â rhywun, bydd y ci yn ymddangos fel un sydd wedi’i gadw ar y dudalen Cŵn sydd ar gael.
  • Os bydd y pariad hwn yn llwyddiannus ac rydym yn dod o hyd i gartref parhaol i’r ci, bydd y ci yn ymddangos ar y dudalen cŵn sydd wedi’u hailgartrefu .
  • Os na fydd y pariad hwn yn llwyddiannus, bydd y ci yn ailymddangos ar y dudalen Cŵn sydd ar gael a byddwn yn ailystyried pob cais gwreiddiol. Ni allwn gysylltu â phob ymgeisydd oherwydd nifer y ceisiadau a dderbyniwn.

Os penderfynwn fod angen cyfnod maethu byr ar gi mewn cartref cyn i’r trefniant ddod yn barhaol, bydd y ci hwn yn ymddangos ar y dudalen Cŵn sydd wedi’u maethu. Rydym yn gwneud hyn ar gyfer cŵn ag anghenion penodol yn unig.

Os byddwn yn mynd â’ch cais ymhellach

Rydym yn ymdrin yn bennaf â chŵn crwydrol. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn gallu rhoi mwy o wybodaeth am y ci na’r hyn sydd eisoes wedi’i ysgrifennu ar y wefan.

Os ydym yn credu eich bod chi’n addas, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais. Byddwn yn gwneud 2 apwyntiad i chi gwrdd â’r ci.

Ar gyfer eich apwyntiad cyntaf, byddwn yn eich gwahodd i gwrdd â’r ci, i weld sut rydych chi’n ymateb i’ch gilydd.  Mae’r ail apwyntiad ar gyfer cyflwyno’r ci i unrhyw anifeiliaid anwes eraill, oedolion neu blant a fydd yn byw yn yr un cartref. Bydd y ddau apwyntiad yn y Cartref Cŵn.

Os bydd y cyflwyniadau hyn yn mynd yn dda, byddwn yn ailgartrefu’r ci gyda chi yn barhaol.

Os bydd angen, efallai y byddwn yn trafod caniatáu cyfnod maethu i chi am gyfnod penodol o amser, i weld a yw hyn yn gweithio’n barhaol.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau ar baru ac ail-gartrefu

Mae ein penderfyniadau’n seiliedig ar:

  • eich ffurflen gais bapur,
  • canlyniad eich cyfarfod cyntaf,
  • canlyniad cyflwyniadau i anifeiliaid anwes eraill, oedolion neu blant a fydd yn byw yn yr un cartref,
  • anghenion y ci, a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’ch amgylchiadau,
  • geirdaon gan filfeddygon (unrhyw hanes meddygol eich ci presennol neu flaenorol),
  • caniatâd ysgrifenedig i gael ci yn eich eiddo (os ydych chi’n byw mewn eiddo rhent),
  • gwiriadau cartref a wneir trwy alwad fideo a lluniau (neu’n bersonol, os oes angen), ac
  • asesiad o ymddygiad y ci.

Ar ôl i ni ailgartrefu ci gyda chi

Bydd y rhan fwyaf o gŵn yn cymryd ychydig wythnosau i ymgartrefu. Weithiau gall hyn gymryd ychydig fisoedd. Mae angen amser ac amynedd gyda chŵn sydd wedi dod o gartref cŵn.

Os nad yw’r ci yn ymgartrefu ar ôl y cyfnod hwn, rydym yn disgwyl i chi gysylltu â ni am gyngor a chymorth pellach.

Os nad yw’r ci yn ymgartrefu ar ôl hyn, byddwn wedyn yn siarad am ddod o hyd i gartref arall iddo.

Ffioedd

Gall ffioedd ailgartrefu amrywio o £200 i £550.  Ar gyfer cŵn bach, £280 yw’r ffi.

Mae’r ffi hon yn cynnwys y brechiadau cyntaf a’r ail frechiadau, microsglodynnu, a’r triniaethau chwain a llyngyr cyntaf.

Nid ydym yn rhoi ad-daliadau ar gyfer cŵn sy’n cael eu dychwelyd, ond efallai y byddwch yn gallu ailgartrefu ci arall am ddim. Bydd hyn yn dibynnu ar pam eich bod wedi dychwelyd y ci.

Ysbaddu

  • Rhaid i bob un o’n cŵn sy’n oedolion gael eu hysbaddu cyn cael eu hailgartrefu.
  • Mae’n rhaid dod â chŵn bach yn ôl atom i gael eu hysbaddu ar ddyddiad y cytunwyd arno.
  • Mae’r costau hyn fel arfer yn cael eu talu gan ein helusen, Rescue Hotel.

Byddwn yn trafod hyn gyda chi os ydych yn ailgartrefu ci.

Os na fydd y gwasanaeth hwn ar gael yn y dyfodol, bydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd ysbaddu cyn i’r ci gael ei ailgartrefu. Yn yr achos hwn, gall ein milfeddyg gyflawni’r weithdrefn am gost isel (£210 i ysbaddu cŵn benywaidd, £110 i ysbaddu cŵn gwrywaidd).

Y rhesymau pam na fyddem yn ailgartrefu ci gyda chi

  • Ni fyddwn yn ailgartrefu ci gyda chi os ydych yn byw mewn eiddo heb yr hawl i gadw anifeiliaid anwes. Os ydych yn byw mewn eiddo rhent, gofynnwn i’r landlord roi i ni ganiatâd ysgrifenedig i chi gadw anifeiliaid. Os yw hyn eisoes wedi’i nodi yn y cytundeb tenantiaeth, bydd hynny’n dystiolaeth ddigonol.
  • Ni fyddwn yn ailgartrefu ci gyda chi os ydych wedi cael eich anghymwyso dan ddeddf lles anifeiliaid.
  • Ni fyddwn yn ailgartrefu ci gyda chi os gallech fod yn symud dramor, i wlad y tu allan i’r Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes.
  • Ni fyddwn yn ailgartrefu ci gyda chi os oes rhywbeth sylweddol ar fin digwydd yn eich bywyd. Er enghraifft, symud tŷ, cael babi, neu fynd ar wyliau.

 

 

Brig

© Cartref Cŵn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddHygyrchedd