Sylwch na fydd y wefan hon ar gael dros dro o 3pm heddiw.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich amynedd.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Os collwch gi

Os collwch eich ci, rydym yma i helpu

Cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol bod eich ci ar goll, ffoniwch Cartref Cŵn Caerdydd ar 02920 711243 byddwn yn cymryd y manylion i gyd ac yn eich cynghori beth i’w wneud nesaf.

Mae’n bosibl bod rhywun wedi dod â’ch ci i’r cartref neu fod rhywun wedi adrodd eu bod wedi ei weld.

Gallwch hefyd ffonio’r Filfeddygfa leol rhag ofn bod eich ci wedi ei anafu a bod rhywun wedi mynd ag e yno.





    Deallwch fod cost ddyddiol am fwyd, llety, sylw meddygol a chostau brechu, yn ogystal â dirwy statudol gan y llywodraeth. Bydd hon o leiaf £40 os daw eich ci i’r cartref.

    Os ydych yn credu efallai bod eich ci gennym, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Bydd gofyn i chi ddod i’r cartref cŵn gyda thystiolaeth mai chi yw’r perchennog e.e. rhif y microsglodyn, cofnod brechu, tystysgrifau pedigri neu lun o’ch ci.

    Rydym yn cadw cŵn am saith niwrnod ac yna dônt yn eiddo i Gartref Cŵn Caerdydd, ond rydym yn derbyn ceisiadau gan bobl â diddordeb yn y cyfamser felly cysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch.

    Image of a sad dog holding a sign

    Cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol bod eich ci ar goll, ffoniwch Cartref Cŵn Caerdydd ar 02920 711243 byddwn yn cymryd y manylion i gyd ac yn eich cynghori beth i’w wneud nesaf.

    029 2071 1243

    Dim gyfleoedd ar gael.

    Lledaenwch y newyddion yn lleol

    Os nad yw eich ci gennym ac os nad ydym wedi clywed sôn amdano, fe gymerwn eich manylion rhag ofn y daw i mewn yn hwyrach. Yn y cyfamser, byddai’n werth ehangu ffiniau eich ardal chwilio.

    • Siaradwch â’ch cymdogion
    • Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol
    • Cerddwch y llwybr rydych yn ei gerdded fel arfer gyda’ch ci, efallai ei fod wedi penderfynu mynd am dro ei hun
    • Rhowch bosteri yn eich ardal leol yn disgrifio eich anifail anwes yn ofalus a defnyddiwch lun diweddar
    Brig

    © Cartref Cwn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan T?m y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd