Byddwch yn wirfoddolwr
Mae sawl ffordd o ddod yn wirfoddolwr;
Cofrestrwch i fod yn wirfoddolwr Cerdded, drwy gofrestru eich manylion a threfnu lle ar un o’n sesiynau rhagarweiniad. Cynhelir y sesiynau rhagarweiniad ar ddydd Gwener am 2pm a bydd angen i chi ddod â cherdyn adnabod a chadarnhad o’ch cyfeiriad cyfredol gyda chi. Mae’r rhagarweiniad yn para tuag awr gan gynnwyd eich taith gerdded cyntaf!
Ymgeisiwch i weithio yn y cytiau ci a helpu gyda glanhau, bwydo, ymarfer, cyfoethogi amgylcheddol ac ymolchi cŵn. Cwblhewch y ffurflen gais isod a’i hanfon atom. Byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu sesiwn flasu/rhagarweiniad ac wrth gwblhau’r cwrs hwn gofynnir i chi ymrwymo i ddiwrnod / amser penodol. Mae hyn yn ein galluogi i ganiatáu i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan a sicrhau bod niferoedd diogel yn y Cartref Cŵn bob amser.
Chwarae’n Rhydd yn yr Ardd:
Gwirfoddolwch i chwarae â’r cŵn heb dennyn. Mae gennym ardd wych i’n cŵn, sy’n rhoi’r amser iddynt redeg yn wyllt, chwarae â phêl, chwarae yn y pwll a chael yr ymarfer corff a’r rhyngweithiad angenrheidiol y maent yn dwlu arnynt.
Casglu Rhoddion
Gwirfoddolwch i oruchwylio a chasglu’r rhoddion a wnaed i Gartref Cŵn Caerdydd yn eich archfarchnadoedd a’ch siopau lleol. Bydd angen i chi fonitro’r blwch rhoi a phan fydd yn llawn, bydd angen i chi ei wagio a dod ag ef i’r cartref cŵn fel y gallwn ei roi at ddefnydd da.
I wirfoddoli rhaid i chi:
- Fod dros 18 oed
- Gallu ymrwymo i ddiwrnod / au penodol o’r wythnos.
- Fod yn fodlon cymryd rhan yn y gwaith o lanhau a threfnu’r cytiau bwydo, ymarfer ac ymolchi cŵn.
- NEU’n fodlon cerdded cŵn ar adeg sy’n addas i chi rhwng 8am a 4pm 7 diwrnod yr wythnos tan 6pm ac ar ddyddiau Iau.