Manny
Croeso mawr I Manny . Ci Collie X tua 6-7 oed. Rydym yn ansicr o’i orffennol a hoffem feddwl bod ei fywyd blaenorol yn un hapus.
Mae Manny yn gweithio ar ei hyder ond mae’n mynd yn bryderus iawn mewn rhai sefyllfaoedd. Gall hefyd fod yn ofnus o gyffyrddiad, fodd bynnag, mae’n cyfleu ei deimladau yn dda iawn ac ar hyn o bryd mae’n gweithio’n galed ae ei bryderon ac adeuladu cysylltiadau cadarnhaol â pethau a phrofiadau newydd.
Gan fod hyn yn wir, byddai Manny yn fwy addas ar gyfer cartref tawel ond gweithgar, oedolyn yn unig gyda phobl sydd â gwybodaeth neu brofiad da o gŵn Collie a fydd yn caniatáu iddo addasu i’w fywyd newydd yn ei amser ei hun a bod yn ymroddedig i’w hyfforddiant a’i adsefydlu parhaus.
Gan ei bod yn Collie actif, sy’n mwynhau chwarae ac anturiaethau mawr, bydd angen ysgogiad corfforol a meddyliol ar Manny i’w gadw’n brysur a bodlon y tu mewn a’r tu allan i’w gartref.
Bydd manny yn elwa’n fawr o ddosbarthiadau hyfforddi ac ufudd-dod i helpu i ddysgu sgiliau newydd iddo. Ymhen amser, unwaith y bydd yn teimlo’n fwy hyderus ynddo’i hun, teimlwn y byddai Manny yn ffynnu mewn unrhyw gamp cwn megis ystwythder. Bydd hyn hefyd yn gyfle hwyliog iddo ac yn meithrin cysylltiadau cryf ymhellach â’i berchnogion newydd.
Mae’n bosibl y gall Manny fyw gyda cwn hyderus eraill sydd wedi’u hysbaddu sydd â lefelau egni tebyg a chathod sydd wedi arfer a cwn. Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau rheoledig a wneir yma yn y ganolfan.

Treat please

Taking a break

Best puppy dog eyes

Sitting on the table

Happy face
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Manny. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.