Croeso i’r gwesty, Maltida, ci French Bulldog tua 5 oed a gyrhaeddodd i’n gofal fel ci crwydr, ond mae hi bellach yn barod i ddod o hyd i’w chartref parhaol.
Ymddengys, yn anffodus, fod Matilda wedi colli allan ar ymlygiadau i’r byd y tu allan.
Gall fod yn poeni am brofiadau newydd, synau uchel a thraffig symudol, ond mae hi’n gweithio’n agos gyda’n tîm ymddygiad i helpu i ddadsensiteiddio a meithrin ei hyder.
Mae hi’n dangos gwelliant cyson ac mae ei phersonoliaeth wirioneddol yn dechrau disgleirio. Mae gan Matilda natur felys, mae hi’n hoff o hwyl ac yn mwynhau chwarae gyda’i theganau a rhedeg o gwmpas yr ardd synhwyraidd.
O ystyried hyn, byddai Matilda yn fwyaf addas i gartref tawel gyda phobl sydd â gwybodaeth dda neu brofiad o’r frîd sy’n ddeallus ac yn amyneddgar.
Bydd angen i’w pherchnogion newydd fod yn ymrwymedig ac yn gyson â’i magu hyder parhaus trwy ei chofrestru ar ddosbarthiadau hyfforddi i helpu i ddysgu sgiliau bywyd sylfaenol iddi a meithrin bond â hi.
Gallai Matilda fyw gyda phlant synhwyrol a fydd yn barchus o’i natur swil, ci preswyl hyderus wedi’i ysbaddu a chathod sy’n gyfarwydd â chŵn. Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau rheoledig yma yn y ganolfan.

Waiting for my dinner to served

Giving my best puppy dog eyes

Waiting for the cars to pass so I can enjoy my walk.

Best sit on my block
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Matilda. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.