
Waiting to go back to bed

Practicing my stand

Bring tall

Taking a break
A wnewch chi groesawu ein preswylydd diweddaraf, Nikita, i’r cartref os gwelwch yn dda? Mae’r ferch hardd hon yn gymysgedd o frîd Akita ac mae hi o ddeutu 2 flwydd oed. Cyrhaeddodd i’n gofal ar ôl newid yn ei hamgylchiadau.
Ar ôl iddi gyrraedd, roedd Nikita, yn ddealladwy, yn poeni am fod yn rhywle newydd gyda phobl ddiarth yn gofalu amdani.
Bellach, ar ôl ychydig o amser, mae Nikita wedi dechrau ymgartrefu ac mae hi’n raddol yn dod allan o’i chragen. Mae hi’n mwynhau ei throeon ac unwaith y bydd hi’n gysurus gyda chi, mae Nikita wrth ei bodd yn derbyn sylw a maldod.
Mae hi’n dal i fod ychydig yn ochelgar o bobl ac amgylchiadau newydd. Cam wrth gam fydd y ffordd orau i ennill ei hymddiriedaeth.
Mae Nikita wedi dangos diddordeb mewn cŵn eraill ac mae’n gallu cyffroi. Bydd angen gweithio’n gyson i wella’i sgiliau cymdeithasu er mwyn iddi allu bod y ci gorau y gall hi fod.
Byddai’n well i Nikita fyw mewn cartref lle bo oedolion yn unig yn byw a gyda phobl sydd â gwybodaeth dda neu brofiad o gŵn o’r brîd gogleddol.
Bydd angen i’w pherchnogion newydd fod yn amyneddgar a gadael i Nikita ddod i ymddiried ac ymgartrefu yn ei bywyd newydd yn ei hamser ei hun.
Byddai Nikita yn elwa o gael mynychu dosbarthiadau ufudd-dod sylfaenol i’w helpu hi ddysgu rhai sgiliau bywyd, cynyddu ei hyder a meithrin perthynas gyda’i theulu newydd.
Unwaith y bydd hi wedi ymgartrefu, byddai Nikita yn ffynnu o gael gwneud campau cŵn, fel sy’n addas i’w brîd hi, er mwyn ei hysgogi yn feddyliol ac yn gorfforol.
Gan fod ganddi got o flew hir mae gofyn ei brwsio bob dydd er mwyn ei chadw’n hardd ac atal clymau rhag ffurfio. Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn y ganolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Nikita. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.