Yn cyflwyno ein bachgen Bully poced, Paul. Cyrhaeddodd y bachgen golygus hwn i’n gofal fel ci crwydr ac mae bellach yn chwilio am ei gartref am byth.
Mae Paul yn fachgen melys iawn sydd wrth ei fodd â dim byd mwy na chariad a sylw gan ei ofalwyr.
Mae’n mwynhau chwarae nôl a thynnu yn ein gardd synhwyraidd ddiogel a mynd am droeon gyda’i ffrindiau gwirfoddol newydd, fodd bynnag, mae’n llawer gwell ganddo deithiau cerdded ysgafn sy’n gorffen gyda chwtshis ar y soffa.
Byddai Paul yn fwyaf addas i gartref sydd â gwybodaeth dda neu brofiad o frîd Bully.
Bydd angen i’w berchnogion fod gartref y rhan fwyaf o’r amser i’w ymgartrefu a chadw cwmni iddo.
Gallai Paul o bosib fyw gyda chi preswyl wedi’i ysbaddu, plant 12+ sydd wedi arfer â chŵn Bully a chathod sydd wedi arfer â chwn. Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau rheoledig a wneir yma yn y ganolfa

Most handsome boy

Showing off my athletic build

Showing off my best sit

Puppy dog eyes on fleek
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Paul. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.