💛 Dewch i gwrdd â Daisy – menyw hŷn hyfryd. 💛 Lhasa Apso 13 mlwydd oed yw Daisy, sydd wedi canfod ei hun yn ddigartref, a hithau’n fenyw yn ei blodau.
Pan gyrhaeddodd Daisy, roedd hi mewn cyflwr gwael gyda’i chôt yn llawn clymau a’i llygaid yn peri dolur iddi, ond ers derbyn y gofal angenrheidiol, mae hi’n teimlo fel menyw newydd sbon!
Efallai bod Daisy ychydig yn drwm ei chlyw a’i golwg yn pylu rhywfaint, ond nid yw hynny’n ei hatal rhag mwynhau bywyd – p’un ai yw hi’n hamddena ac archwilio’i hamgylchfyd ynteu’n cysgu yn ei hoff le. Mae hi’n fenyw annibynnol sy’n gwybod yn union beth y mae hi ei eisiau; nid yw’n un sydd am eistedd ar eich côl drwy’r dydd – ond bydd hi’n hapus i gadw cwmni i chi yn ei ffordd addfwyn hi ei hun.
Bydd angen diferion llygaid gydol oes arni er mwyn cadw ei llygaid yn gysurus a bydd angen trin ei chôt yn rheolaidd er mwyn ei chadw yn edrych yn hyfryd, ond bydd hithau, yn ei thro, yn dod â chynhesrwydd a swyn i’ch cartref.
Mae Daisy bellach yn chwilio am gartref tawel er mwyn cael ymddeol iddo, rhywle lle y gall hi dreulio’r blynyddoedd pan fo hi yn ei blodau yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei charu a’i gwerthfawrogi – yn union fel y mae hi’n ei haeddu.

making friends

waiting for my forever home

exploring the outside world
Comments are closed.