Mae Illtrid yn Groesfrid Poodle ifanc a ddaeth i’n gofal mewn cyflwr trist iawn. Roedd ei gôt wedi ffiltiog yn ddifrifol, gan achosi poen a gofid iddo.
Ar ôl sesiwn “groom” brys – a gymerodd dros bedair awr ac ofyn am ddau groomiwr – roedd Illtrid fel ci newydd sbon. Cafodd ei ryddhau o’r clymau tynn poenus, ac fe doclwyd ei grafangau gormod o hir fel ei fod yn gallu cerdded yn iawn eto.
Mae Illtrid yn dangos moesau da ar dennyn ac yn gweithio’n galed i aros yn dawel wrth stopio am seibiant neu wrth aros i groesi’r ffordd. Mae mor gyffrous i fod allan nes nad yw’n gallu eistedd yn llonydd – mae ei frwdfrydedd dros fywyd yn amlwg ym mhob dim mae’n ei wneud!
Ar hyn o bryd mae ar gynllun deiet ac yn colli pwysau’n raddol, gyda’i hyder yn tyfu o ddydd i ddydd. Mae Illtrid wrth ei fodd yn chwarae gyda’i deganau ac yn dysgu rhannu’n decach.
Mae Illtrid yn chwilio am gartref gweithgar gyda phobl a fydd yn parhau â’i hyfforddiant ac yn cefnogi ei daith colli pwysau. Byddai’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi i adnewyddu’r hanfodion a chadw cysondeb.
Oherwydd ei anghenion “groomio” a’i egni, rydym yn chwilio am gartref oedolion yn unig, heb blant, yn ddelfrydol gyda phobl sydd â phrofiad o Boodle neu fridiau tebyg. Bydd cadw ei gôt mewn cyflwr gwych yn hanfodol, ynghyd â helpu Illtrid i ddod yn fwy cyfforddus gyda “groomio” rheolaidd.
Mae Illtrid yn gi hapus a llawn bywyd – ifanc, gweithgar, ac yn waith ar y gweill. Gyda’r teulu cywir, bydd yn ffynnu ac yn dod yn gyfaill bywyd bendigedig.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Illtrid. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.