Croeso mawr I’r ferch prydferth Portia! Daeth I ni fel ci crwydr ffug, Serch hynny mae’n ferch hapus sy’n edrych am ei chartref newydd.
Mae Portia yn caru pobl a derbyn cwtch a mwythiad. Wrth gwrs, mae’n credu ei bod hi’n ci bach sy’n eistedd ar eich glun! ac mi fydd angen I berchnogion newydd bod yn barod i aberthu eu gwagle personol!
Mae wedi dangos diddordeb mewn cwn eraill ac mae’n bosib gall Portia byw gyda ci arall o faint tebyg. Mae Portia yn caru mynd am dro ac derbyn cwtch !
Yn anffodus dydy portia heb dderbyn triniaeth dda yn y gorffennol. Mae’n amlwg cafodd ei defnyddio er mwyn fridio cwn bach, a chafodd ei chlustiau eu clipio ar gyfer edrychiad. Pan gyrhaeddodd Portia roedd ei chlustiau’n goch ac yn gwaedu, Maent wedi derbyn triniaeth ac yn well yn barod.
Oherwydd ei liw mae’n bosib bydd Portia yn dioddef o broblemau croen yn y dyfodol. Mae wedi bod ar ddeiet bwyd pysgod sy’n cadw ei chroen yn dda.
mae’n ferch cariadus sy’n edrych am gartref profiadol o fath bully. Mae’n bosib gall Portia byw gyda plant 5+ ac efallai cathod yn seiliedig ar ragarweiniadau.

Look how long my tongue is

Best “sit”

Exploring the forest

Taking a much needed break
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Portia. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.