Sally
Croeso mawr i sally y ferch springer prydferth ! Cafodd sally ei glymu i gat y ganolfan gan ei berchnogion gyda raff ac felly does dim gwybodaeth gennym am sally cyn iddi ymuno â ni. Mae’n amlwg cafodd ei defnyddio ar gyfer bridio ac roedd hi hefyd yn disgwyl ffug feichogrwydd pan gyrhaeddodd hi.
Serch ei gorffennol mae sally yn hapus iawn ac yn caru sylw gan bobl. Mae’n caru cwtch a mwythiad a hefyd ei pheli tennis ! Bydd sally yn siwtio pobl actif sydd hefyd yn hoffi cwtch ar y sofa !
Mae sally wedi dangos moesau da o amgylch cwn eraill ac mae’n bosib gall sally byw gyda ci arall, cathod a phlant. Bydd popeth yn seiliedig ar ragarweiniadau.




Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.