Cyflwyno Mr Bruno, ein ci Husky golygus! Cyrhaeddodd Bruno i’n gofal fel ci crwydr ac ni chafodd ei hawlio erioed, mae bellach yn chwilio am ei gartref am byth.
Mae Bruno yn fachgen mor hyfryd ac mae’n mwynhau anturiaethau dyddiol mawr gyda’n gwirfoddolwyr! Mae nhw wedi dweud ei fod yn bleser cerdded, bod ganddo sgiliau cerdded rhydd gwych ac nad yw’n adweithiol i unrhyw beth – mae eisiau mwynhau’r golygfeydd a’r arogleuon o’i flaen (a danteithion bob hyn a hyn!).
Mae’n dal i weithio ar ei foesau o amgylch bwyd gan y gall fynd ychydig yn gyffrous a neidio i fyny, ond mae’n dysgu os bydd yn eistedd y bydd yn cael y danteithion y mae eu heisiau cymaint!
Mae Bruno yn 8 oed – fodd bynnag, peidiwch â gadael i hyn eich digalonni gan ei fod yn fachgen egnïol iawn sy’n chwilio am gartref a fydd yn mynd ag ef ar deithiau cerdded hir a dyddiau allan yn archwilio.
Mae hefyd yn hoff o grafu pen-ôl a chwtsio yn ei genel felly rydym yn meddwl y byddai’n mwynhau soffa gynnes braf i gwtsio arni.
Gallai fyw gyda phlant, cŵn a chathod yn dibynnu ar y cyflwyniadau a wneir yn y ganolfan.


Bruno on a walk!



Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Bruno. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.