Shwmae! Fy enw i yw Ricky, ac rydw i tua 9 wythnos oed. Rydw i wedi cael dechrau bywyd ychydig yn anodd, ond rydw i’n fachgen dewr, llawn sbonc gyda chalon fawr sy’n barod i ddod o hyd i’m teulu am byth
Rydw i’n gobeithio dod o hyd i gartref profiadol ac amyneddgar, yn ddelfrydol gyda theulu hŷn – oherwydd weithiau rydw i’n cael fy nghyffroi gormod ac yn anghofio pa mor finiog yw’r dannedd bach ‘ma! Dydw i ddim yn golygu gwneud drwg, rydw i jyst dal i ddysgu fy moesau
Rhaid i mi gyfaddef, rydw i dal ychydig yn ansicr o gwmpas dynion, ond rydw i’n dod yn fwy hyderus bob dydd. Gyda amynedd a thrin caredig, rydw i’n dysgu bod dynion yn gallu bod yn ffrindiau hefyd. Mae fy hyder yn tyfu, ac rydw i’n araf bach yn arfer â phobl newydd – rydw i’n dysgu nad yw dieithriaid i gyd yn elynion. Unwaith rydw i’n teimlo’n ddiogel, rydw i’n llawn cwtsh, chwarae a chwifio cynffon.
Oherwydd fy nhechrau anodd, rydw i’n tueddu i ddatblygu bondiau cryf iawn yn gyflym – rydw i jyst eisiau teimlo’n ddiogel ac yn cael fy ngharu ar ôl popeth rydw i wedi’i brofi. Gyda sicrwydd caredig ac amynedd, bydda i’n dysgu bod fy nheulu newydd yma i aros, ac y gallaf ymlacio a bod fi fy hun.
Ychydig o bethau amdanaf i:
Rydw i wedi fy hyfforddi i ddefnyddio’r caetsen ac yn cysgu’n dawel drwy’r nos.
Rydw i’n dda iawn yn y car – rydw i’n ymlacio’n gyflym ac yn teithio’n braf.
Mae gen i fanners hyfryd ac rydw i’n aros yn bwyllog am fy nhrît nes bydda i’n cael gwybod mai amser bwyd ydyw.
Rydw i’n gwybod sut i eistedd ac i orwedd eisoes – rydw i’n caru dysgu!
Rydw i’n gwneud yn dda iawn gyda’m hyfforddiant tŷ ac fel arfer yn mynd allan i wneud fy anghenion, er mod i dal wedi cael damwain neu ddwy (rydw i dal yn fabi, wedi’r cyfan!).
Rydw i’n byw gyda chath – dydy hi ddim yn hoff iawn ohona i eto gan fy mod i jyst eisiau iddi chwarae gyda fi, ond rydw i’n trio’n galed i ennill ei chalon.
Gallwn i fyw gyda chŵn eraill sydd wedi’u niwtralu sy’n dawel, cyfeillgar ac yn gallu helpu fi i ddysgu a symud ymlaen drwy fywyd.
Byddwn i’n elwa’n fawr o fynychu dosbarthiadau hyfforddiant i helpu fi adeiladu hyder, dysgu sgiliau newydd, a pharhau i dyfu i fod y bachgen gorau y gallaf fod.
Oherwydd fy nhechrau anodd, rydw i wedi cael diagnosis o ddiffyg fitamin D a chalsiwm, felly bydd rhaid i mi aros ar fwyd ci bach o ansawdd da a chymryd atchwanegiadau i helpu fy nhwf a chadw’n gryf ac yn iach. Bydd fy nheulu newydd angen parhau gyda hyn wrth i mi dyfu.
Rydw i’n chwilio am gartref tawel a chariadus lle alla i barhau i ddysgu, tyfu ac i deimlo’n ddiogel. Gyda amser, amynedd a gofal, bydda i’n troi’n ffrind gorau ffyddlon a chariadus i chi
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn deulu am byth i mi, cysylltwch os gwelwch yn dda – alla i ddim aros i’ch cwrdd a dechrau fy mywyd newydd llawn cariad, hyfforddiant ac anturiaethau.
Cariad,
Ricky

Puppy sitting

Puppy sleeping

Playing with his toys

Cute

Taking a nap

Cafe cuddles
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Ricky. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.