Buddy the Elf
Mae nadolig drosodd ond mae Buddy dal gyda ni lawr yn y ganolfan.
Mae Buddy tua 9 mis ac rydym yn credu ei fod yn math bull herder, cymysgedd mwyaf tebygol buddy yw Dutch herder X mastiff.
Mae’n ifanc a llawn hwyl a sbri ond amlwg heb dderbyn hyfforddiant neu dysgu sut i gymdeithasu gan ei hen berchnogion. Mae wedi setlo yn y cwteri yn dda erbyn hyn ac wrth ei fodd yn mynd allan am dro gyda’r gwirfyddolwyr. Mae’n hoff iawn o arogli pob arogl, ac oherwydd ei frîd bydd angen teulu profiadol sy’n medru sicrhau gwersi hyfforddi a gwneud rhyw fath o chwaraeon cwn â’g ef er mwyn cynnal ei ymenydd a chadw’n iach ac yn hapus.
Mae’n caru chwarae gyda’i degannau yn enwedig cael gêm o Tug ! Mae’n caru cwtch a mwythiad hefyd. mae’n medru fod yn ymatebol at gwn eraill sy’n ymddangos oherwydd rhwydtredigaeth ac felly mae’n gweithio gyda’r tîm ac yn dangos welliant gyda hyn. Mae’n medru cerdded heibio cwn eraill o bellter heb ymateb, mi fydd angen I berchnogion newydd buddy parhau gyda hyfforddiant wobr positif er mwyn iddo ffynnu yn ei gartref newydd.
Mae Buddy yn edrych am gartref amyneddgar, heb gwn eraill. Bydd angen cynnal ragarweiniadau i weld os yw buddy yn addas I fyw gyda chathod a phlant 16+.

Showing off my teeth

Looking over the river

Giving paw
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Buddy the elf. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.