Mr Red,
Yn anffodus mae Mr Red, ein boi golygus, wedi ail-ymuno â ni ar ôl byw mewn cartref am chwe mis oherwydd newidiau mewn sefyllfa ei hen berchennog.
Mae’n Belgian Mallinois tua 3 blwydd oed sy’n mwynhau mynd ar anturiaethau a, Serch ei frîd, yn ymlaciedig. Mae’n glyfar iawn ac yn medru gwneud triciau ac wedi dysgu I fynd i’r ty Bach yn yr ardd. Mae’n medru byw gyda oedolion, plant a chathod.
Bydd Mr Red yn hoffi mabwysiadu gweithgaredd fel ystwthder neu gwaith arogl er mwyn Cadw ei ymenydd yn brysur. Mae’n hoffi mynd ar heiciau ac yn Caru treats a cwtch. Mae’n caru pêl droed a chwarae tug. Dangosodd Bach o bryder gwahaniad yn ei gartref gorffennol ac yn ymddiried a creu perthynas gryf gyda’i berchennog. Felly, bydd angen rhywun yn y cartref rhan fwyaf o’r amser amser ac sy’n fodlon gweithio ar hyn.
Yn ôl sôn ei hen berchennog mae Mr Red yn gwarchod ei fwyd, dydyn ni heb weld hyn yn y cwteri ond mae hyn yn rhywbeth i ystyried a reoli gan barchu ei ofod pan mae’n bwyta.
Oherwydd hyn mae Mr Red yn medru byw gyda phlant 14+ sy’n deall sut i barchu ei ffiniau. Mae’n bosib gall Mr Red byw gyda cwn eraill a chathod yn ddibynadwy ar ganlyniad rhagarweinidau. Bydd Mr Red hefyd yn fuddio o wersi hyfforddi.






Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Mr Red. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.