Pecan
Cwrdd â Pecan. Mae Pecan yn Jack
Russell 9 oed a ddaeth i’n gofal fel ci
crwydr.
Gall fod yn fachgen bach pryderus ac
mae’n cymryd amser i addasu i bobl ac
amgylcheddau newydd, felly bydd angen
mabwysiadwyr amyneddgar a deallus
arno sy’n barod i fynd ar ei gyflymder.
Byddai Pecan yn elwa’n fawr o
gymdeithasu parhaus a meithrin hyder i’w
helpu i deimlo’n fwy diogel yn y byd o’i
gwmpas.
Unwaith y bydd yn teimlo’n gyfforddus,
mae ei bersonoliaeth hyfryd yn dechrau
disgleirio—mae’n mwynhau chwarae, wrth
ei fodd yn mynd allan am dro, ac yn
awyddus i archwilio ei amgylchoedd.
Mae wedi cael ei ysbaddu tra yn ein gofal.
Mae Pecan yn chwilio am gartref tawel, i
oedolion yn unig gyda lleiafswm o
ymwelwyr, lle gall deimlo’n ddiogel ac wedi
setlo.
Byddai angen iddo fod yr unig anifail
anwes yn y cartref. Bydd angen i’w
berchnogion newydd fod yn ymrwymedig
i’w hyfforddiant parhaus, gan gynnwys
mynychu
dosbarthiadau hyfforddi, ac yn ddelfrydol
bydd ganddynt brofiad gyda chŵn nerfus.
Gyda’r gefnogaeth gywir, mae gan Pecan
gymaint o botensial i dyfu mewn hyder a
dod yn gydymaith gwych

Sitting on the bench

Squirrel patrol

Sitting down

Puppy dog eyes
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Pecan. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.