Dywedwch helo wrth Lemmy y ci bach anferth! Mae Lemmy yn Caucasian Shepherd gafodd ei ddod i’n gofal fel “stray ffug”. Roedd mewn cyflwr ofnadwy pan gyrhaeddodd atom ni, ei got wedi matio’n llwyr ac roedd wedi’i orchuddio mewn wrin a baw. Mae Lemmy ond tua 5-6 mis oed ac roedd yn hollol ofnus pan ddaeth atom. Roedd rhaid ei gario i ac o’i gwtsh ar gyfer y milfeddyg a’r groomers oherwydd roedd mor ofnus nes oedd o’n plannu’i hun ar y llawr.
Diolch byth mae Lemmy wedi bod yn gwneud cynnydd anhygoel yn ystod y dyddiau diwethaf… Cafodd drip i weld y merched yn Salty Pawz ac fe wnaeth pawb weithio gyda’i gilydd i achub cymaint o’i got â phosib. Roedd Lemmy yn wych drwy’r groom ac fe fwynhaodd bob eiliad (yn enwedig yr holl gwtshys!) ac fe lwyddodd y tîm i gadw’r rhan fwyaf o’i got, sydd yn fuddugoliaeth enfawr o ystyried pa mor fatiedig oedd hi. Gall Lemmy fod yn eitha nerfus gyda phethau newydd, yn enwedig dynion! Ond unwaith mae o wedi cael amser i sniffian ac i ddweud helo’n araf, mae o’n cynhesu’n gyflym ac mae’r pen ôl yna’n wiglo fel dim byd arall!
Mae Lemmy wedi bod yn cael sesiynau cymdeithasu araf, yn cwrdd â phobl newydd, yn dweud helo wrth gŵn eraill ac yn cael play dates gyda nhw, yn archwilio synau, golygfeydd ac arogleuon newydd ac mae o wedi bod yn gwneud yn arbennig o dda. Gyda gwaith parhaus ar hyn a hyfforddiant, bydd o’n parhau i ffynnu ac yn tyfu’n fachgen oedolyn cytbwys. Mae Caucasian Shepherds yn fridiau gwarchod da byw sy’n dod gyda llawer iawn o waith, felly bydd Lemmy yn chwilio am gartref sydd â phrofiad o fridiau gweithio mawr fel y gall gael y cyfle gorau i ffynnu yn ei gartref newydd. Bydd angen iddo fynd i ddosbarthiadau hyfforddi rheolaidd i barhau i ddatblygu ei sgiliau bywyd a chymdeithasol.
Mae rhoi ffrindiau cŵn i Lemmy chwarae gyda nhw a dysgu ganddyn nhw wedi bod yn hanfodol i’w ddatblygiad! Rydym yn credu y byddai’n fwyaf addas i gartref gyda chi preswyl wedi’i ysbaddu/neutro sy’n hoffi chwarae ond sydd hefyd â ochr dawel, i helpu i godi ei hyder. Gallai Lemmy hefyd o bosib fyw gyda chathod a phlant 12+ yn dibynnu ar y cyflwyniadau a wneir yn y ganolfan..

Lemmy on arrival

Making friends

Playing

Zoomies

Fresh trim





Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Lemmy. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.