Mae Nev ac Isla yn ddeuawd fach o Chihuahuas yn chwilio am eu cartref hapus am byth gyda’i gilydd.
Mae Nev tua 6 oed ac Isla tua 8 oed. Yn anffodus, dydyn nhw ddim wedi cael y dechrau gorau mewn bywyd ac fe ddaethant i’n gofal yn brin o hyder ac heb fod wedi arfer cael eu trin llawer.
Ers bod gyda ni rydym yn adeiladu ymddiriedaeth gyda nhw fesul dydd. Nev yw’r mwyaf hyderus o’r ddau ac mae’n dechrau mwynhau mynd am dro a chael cysur gan ei bobl. Mae Isla yn dal yn encilgar iawn, ond gyda amynedd a charedigrwydd mae hi’n dechrau dangos bach o gynnydd.
Maen nhw’n gallu cael braw yn hawdd iawn ac felly bydd angen parhau i adeiladu eu hyder a’u cefnogi allan ar deithiau cerdded. Maen nhw hefyd angen gweithio ar eu sgiliau cymdeithasu gyda chŵn eraill, felly rydym yn teimlo y byddai cartref heb gi arall yn well ar hyn o bryd er mwyn iddyn nhw gael cyfle i ymgartrefu a setlo gyda’u pobl eu hunain yn unig.
Bydd angen cartref tawel, amyneddgar a deallus iawn gyda phrofiad o’r brîd Chihuahua. Mae cartref oedolion yn unig heb blant yn hanfodol fel eu bod yn gallu parhau i dyfu mewn hyder ar eu cyflymder eu hunain.
Maen nhw’n chwilio am rywun fydd yn rhoi’r amser, y ddealltwriaeth a’r cariad maen nhw wastad wedi’u haeddu.

Nev

Isla
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Nev and Isla. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.