Dakota
Dywedwch helo wrth Dakota, ein ci German Shepherd (GSD) hyfryd 6 oed! Daeth Dakota i’n gofal fel ci crwydr ac yn anffodus ni chafodd ei hawlio erioed, felly mae hi bellach yn chwilio am ei chartref parhaol!
Mae Dakota yn gi hynod gariadus a thyner; mae hi’n glyfar iawn ac yn gwybod sut i eistedd, rhoi pawen a gorwedd, ac mae hi’n dysgu pethau newydd yn gyflym iawn.
Mae hi’n enghraifft berffaith o’r brîd Geeman Shepherd : mae hi wrth ei bodd gyda dŵr a nofio, yn mwynhau gêm dda o dynnu rhaff, ac yn hoffi bod yn agos at ei phobl – gan gwyno’n aml os nad yw hi’n cael sylw.
Mae hi’n chwilio am gartref egnïol a fydd yn mynd â hi am deithiau cerdded hir a braf, ac yn rhoi’r ysgogiad meddyliol sydd ei angen arni i fod yn gi hapus a bodlon!
Gall Dakota fod ychydig yn ofalus os yw pobl yn dynesu’n gyflym ati pan fydd hi allan ac i ffwrdd, ac mae hi’n well ganddi gael cyflwyniad tyner i bobl; fodd bynnag, nid yw hi’n dyner o gwbl pan mae hi’n dangos ei chariad ‘Bugail’ i chi!
Mae’n bosibl y gallai Dakota fyw gyda phlant dros 10 oed, yn ogystal â chathod a chŵn eraill, yn dibynnu ar sut mae’r cyflwyniadau yn y ganolfan yn mynd.

Sitting on the rock

Poking my tounge out

Looking at the passing dogs

Waiting for my treats
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.