Cyfarfod â’n merch hyfryd, Roxy Roo!
Mae Roxy Roo yn groes Staffi 11 oed a ddaeth i’n gofal fel ci strae, ac am ferch hyfryd yw hi!
Peidiwch â gadael i’w hoedran eich twyllo. Mae Roxy Roo yn ifanc ei hysbryd ac mae ganddi gariad mawr at fywyd. Mae ganddi dymer hyfryd, natur felys ac mae hi wrth ei bodd yng nghwmni pobl. A dweud y gwir, mae hi’n dipyn o löyn byw cymdeithasol ac mae hi wrth ei bodd â phawb mae’n cwrdd â nhw!
Mae Roxy Roo yn gydymaith cerdded gwych. Mae hi’n cerdded yn hyfryd ar dennyn, wrth ei bodd yn archwilio ac yn cymryd popeth yn ei cham. Does ganddi ddim problem cerdded heibio cŵn eraill nac ymdopi â thraffig, gan ei gwneud yn ferch wych i fynd allan ar anturiaethau gyda hi.
Mae hi’n ferch dyner a chariadus sydd wrth ei bodd yn treulio amser gyda phobl ac yn awyddus i’w plesio. Gallwn ei dychmygu’n hapus iawn mewn cartref lle gall fwynhau digon o anturiaethau, ac yna ddigon o gwtshys ar y soffa.
Ar hyn o bryd mae Roxy Roo yn defnyddio glanhawr clustiau ar gyfer ei chlustiau cwyrus, a bydd angen parhau i ofalu am ei chlustiau fel rhan o’i gofal gydol ei hoes.
Mae Roxy Roo bellach wedi cael ei sterileiddio ac mae hi’n aros am driniaeth i dynnu lwmp mamari. Bydd rhagor o wybodaeth am y lwmp ar gael ar ôl y driniaeth.
Byddai Roxy Roo wrth ei bodd mewn cartref tawel lle gall fwynhau pennod nesaf ei bywyd ar ei chyflymder ei hun, gyda theulu a fydd yn gwerthfawrogi ei natur gariadus a’i brwdfrydedd dros fywyd.
Gallai o bosibl fyw gyda chi arall tawel a chydnaws a chathod sydd eisoes yn y cartref, yn amodol ar gyflwyniadau llwyddiannus. Gellir ystyried plant hŷn, tawel a gofalgar hefyd.
Bydd pob cyflwyniad yn digwydd yn y ganolfan.
Mae Roxy Roo wir yn ferch hyfryd sy’n cymryd bywyd yn ei cham. Mae ganddi gymaint o gariad i’w roi ac mae hi’n barod i ddod o hyd i rywun i rannu ei hanturiaethau, a’i chwtshys, gyda hi.

On a walk

On a walk

On a walk

On a walk

Taking a nap

Exploring
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Roxy-Roo. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.