💛 TIGGER 💛
Dewch i ddweud helo wrth y bachgen hapus Tigger! Daeth Tigger i’n gofal fel ci crwydr ffug, ac mae bellach yn chwilio am ei gartref am byth. Mae tua 2 oed ac yn Malinois Gwlad Belg.
Mae Tigger yn fachgen hynod o glyfar a gweithgar. Mae wrth ei fodd yn mynd ar anturiaethau hir gyda’n gwirfoddolwyr ac mae’n ŵr bonheddig perffaith pan fydd allan ar ei deithiau cerdded! Mae wrth ei fodd yn mwynhau’r holl arogleuon sydd gan y byd o’i gwmpas i’w cynnig, a byddai’n bartner cerdded gwych i rywun sy’n mwynhau heicio.
Mae hefyd yn hynod o gariadus ac yn hoffi pwyso i mewn at ei bobl i gael cariad a ffwdan. Ei hoff le i gael ei grafu yw tu ôl i’w glustiau, ac os byddwch chi’n stopio, bydd yn rhoi ei lygaid bach ci bach hyfryd arnoch chi i ofyn am fwy o gariad!
Fel Malinois Gwlad Belg, mae gan Tigger lefelau egni uchel a meddwl hynod ddeallus. Bydd angen i’w berchnogion newydd fod wedi bod yn berchen ar gŵn o’r blaen, ac mae gwybodaeth a phrofiad o’r brid yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am gartref i Tigger lle bydd ei bobl newydd yn awyddus i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hwyliog gydag ef. O ystwythder (agility) i waith aroglau (scentwork), bydd Tigger wrth ei fodd yn rhoi cynnig ar bopeth! Byddai hyn yn hobi gwych i gadw ei feddwl prysur yn hapus ac wedi’i ysgogi.
Mae Tigger wedi dangos llawer o ddiddordeb cadarnhaol mewn cŵn eraill, ac efallai y gallai fyw gyda chi arall yn y cartref. Gallai hefyd fyw gyda phlant 14 oed a throsodd sy’n gyfarwydd â chŵn, ac efallai gyda chathod hefyd, yn dibynnu ar y cyflwyniadau a wneir yn y ganolfan.
Ar hyn o bryd mae Tigger yn aros am lawdriniaeth i drwsio ei ben-glin, gan fod ei gap pen-glin wedi symud allan o’i le. Bydd yn aros yn y ganolfan nes bod ein milfeddyg yn hapus gyda’i gynnydd. Yna bydd yn symud i ofal maeth meddygol gyda’i bobl newydd er mwyn parhau â’i adferiad.
Bydd Tigger yn barod i gael ei ailgartrefu unwaith y bydd y milfeddygon wedi rhoi’r golau gwyrdd llawn iddo.
Mae Tigger yn cael amser caled iawn yn amgylchedd y cenel ac mae’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi. Ai eich soffa chi allai fod y lle perffaith iddo deimlo’n gartrefol ac yn ddiogel?





Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Tigger. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.