Fel Malinois Gwlad Belg, mae Stix yn ferch glyfar sy’n dwlu ar gael tasg i’w gwneud a phwrpas i’w chadw’n brysur. Bydd angen i’w pherchnogion newydd ddeall y brîd a mwynhau gweithio ochr yn ochr â’u ci, boed hynny drwy hyfforddiant, gwaith arogl, ufudd-dod neu weithgareddau eraill sy’n rhoi rhywbeth i’w meddwl ganolbwyntio arno. Bydd hi’n ffynnu gyda pherchnogion sy’n gallu ei chadw’n brysur ac yn ymgysylltu, cynnig digon o weithgareddau cyfoethogi iddi a’i chynnwys yn eu hanturiaethau bob dydd.
Mae Stix yn chwilio am gartref lle mae oedolion yn unig, ac ni all fyw gyda chŵn eraill yn y cartref na chathod am y tro.

Stix looking at the camera

Stix standing on the log

Stix standing on the grass

Stix sitting on the grass
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Stix. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.