Hailey
Dyna ein Hailey hardd, Staffy X 3 oed sydd wedi wedi cyrraredf i’n gofal fel ci crwydr ffug gan ei pherchennog blaenorol.
Ar ôl cyrraedd, roedd Hailey yn ofnus iawn ac yn ansicr o’i hamgylchedd newydd. Er fodhi dal yn nerfus iawn, mae Hailey wedi bod yn tyfu mewn hyder yn raddol o ddydd i ddydd. Unwaith y bydd hi’n ymddiried ynoch chi, mae’n hawdd i weld ei phersonoliaeth annwyl. Mae hi’n mwynhau cariad a bydd yn gofyn yn am fwy o sylw.
Mae hi’n mwynhau treulio amser yn yr ardd ac mae’n dechrau mwynhau mynd am dro gyda’i ffrindiau newydd. bydd Hailey yn fwyaf addas i gartref tawel gyda phobl sydd â gwybodaeth dda neu brofiad brîd, sydd gartref y rhan fwyaf o’r amser.
Bydd angen iddynt fod yn ddeallus ac yn amyneddgar gyda hi trwy ganiatáu iddi gynhesu yn ei hamser ei hun gan ei bod hi’n dal yn nerfus iawn o brofiadau newydd.
Bydd Hailey yn elwa o gael ei chofrestru i ddosbarthiadau ufudd-dod i ddysgu sgiliau cymdeithasoli sylfaenol a helpu i feithrin ei hyder.
Bydd Hailey hefyd yn elwa o fyw gyda ci hyderus wedi’i ysbaddu er mwyn cael hyder a chwmni, plant synhwyrol a fydd yn barchus o’i natur swil a chathod sy’n hoff o gŵn. Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau rheoledig yma yn y ganolfan.

Playing in the pen

Cuddles with her pal

Sniffing in the garden
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Hailey. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.