Pear
Dyma Pearl, ci Springer Spaniel tua 6 oed a ddaeth i’n gofal fel ci crwydr ynghyd â’i ffrind, poppy.
Ar ôl cyrraedd, roedd yn amlwg bod Pearl wedi ei hesgeuluso gan ei pherchnogion blaenorol. Roedd ei chôt mewn cyflwe ofnadw, yn fudur ac matiog ac roedd hefyd yn amlwg ei bod wedi cael ei defnyddio ar gyfer bridio.
Er gwaethaf hyn, nid yw’n dal dig. Mae gan Pearl tymer cariadus a natur dyner.
Ers bod yn ein gofal mae hi wedi dangos moesau tennyn da, yn cerdded yn dda ac yn mwynhau dim byd mwy na mynd ar anturiaethau gyda’i ffrindiau newydd.
Oherwydd hyn, rydym yn teimlo bydd Pearl yn fwyaf addas i gartref egnïol gyda phrofiad da o’r brîd. Bydd angen i’w pherchnogion newydd ymrwymo i’w chynnal a chadw yn eñnwedig gofalu am ei chôt a’i hanghenion brîd sbesiffig.
Bydd Pearl yn elwa o gael ei chofrestru i ddosbarth hyfforddi ufudd-dod i ddysgu sgiliau bywyd sylfaenol ac Rydym hefyd yn teimlo y byddai’n ffynnu cael ei chyflwyno i chwaraeon cŵn fel ystwythder neu waith arogli i gadw ei hymennydd a’i thrwyn Spaniel clyfar yn brysur.
Mae’n bosib gall Pearl fyw gyda cwn eraill wedi’i ysbaddu o dymer tebyg, plant synhwyrol a chathod sy’n gyfarwydd â chŵn. Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau rheoledig yma yn y ganolfan.

Pearl being silly

Pearl walking with her pal

Pearl and her friend
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Pearl. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.