Enaid Tyner yn Chwilio am Fywyd Tawel – Dyma Frenchie!
Lurcher hyfryd yw Frenchie a ddaeth atom fel ci crwydr. Roedd hi’n swil ac yn ansicr ar y dechrau, ond mae’n dysgu ymddiried yn araf ac mae ei natur felys a thyner bellach yn dechrau disgleirio.
Mae hi’n chwilio am gartref tawel i oedolion yn unig, gyda phobl ddeallgar a fydd yn rhoi’r amser a’r amynedd sydd ei hangen arni i ymgartrefu. Byddai Frenchie yn elwa o ddosbarthiadau hyfforddi cadarnhaol i godi ei hyder, ac fe fyddai wrth ei bodd yn rhoi cynnig ar gamp Sighthound i gadw ei chorff a’i meddwl yn actif!
Gallai Frenchie fyw gyda chi gwryw wedi’i niwtralu o faint tebyg, yn dibynnu ar gyflwyniadau llwyddiannus yma yn y ganolfan.
Os oes gennych gartref tawel, calon garedig, a lle ar eich soffa, efallai mai Frenchie yw’r un perffaith i chi.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Frenchie. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.