Cyfarfod Mojito – y “slinky” diweddara’ yn y dref!
Mae Mojito yn Dachshund ifanc ddaeth i’n gofal fel crwydryn pryderus. Roedd o’n denau iawn ac yn amlwg wedi colli allan ar y cariad a’r gofal mae pob ci yn ei haeddu.
Rŵan mae o’n saff gyda ni ac yn barod i ddod o hyd i’w gartref parhaol. Mae Mojito yn dechrau dysgu bod bywyd yn gallu bod yn beth da iawn. Mae dal angen gwaith adeiladu hyder arno, felly bydd angen i hyn barhau yn ei gartref newydd er mwyn iddo deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel wrth setlo mewn i fywyd bob dydd.
Mae Mojito yn chwilio am gartref deallus, tawel ac amyneddgar gyda phobl sydd â phrofiad o’r brîd Dachshund. Bydd angen perchnogion arno sy’n fodlon rhoi amser, sicrwydd ac arweiniad iddo wrth iddo barhau i ddatblygu ei hyder.
Byddai dosbarthiadau hyfforddi yn fuddiol iawn i Mojito, i helpu adeiladu bond gyda’i deulu newydd a dangos iddo nad yw’r byd mor frawychus ag mae’n meddwl. Unwaith mae o’n setlo i mewn i’w gam, mae’n cerdded yn dda ar dennyn ac yn mwynhau archwilio. Mae pob golygfa ac arogl newydd yn cael ei wirio gyda chwilfrydedd wrth i Mojito ddod i arfer gyda’r byd o’i gwmpas.
Mae’r hogyn bach yma wedi dod mor bell yn barod ac rŵan dim ond cartref cariadus sydd ei angen arno i barhau ei daith..

On a walk

On a walk

On a walk
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Mojito. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.