Cyflwyno’r ferch hardd Roxy.
Mae Roxy yn ferch bully ifanc a anwyd yn 2023. Daeth i’n gofal fel crwydryn ac yn anffodus ni chafodd ei hawlio erioed, felly mae hi nawr yn chwilio am ei chartref hapus am byth.
Mae Roxy yn “love bug” go iawn – merch hapus sy’n caru pobl ac wrth ei bodd yn cael ffwdan a sylw. Mae hi’n ferch athletic sy’n mwynhau anturiaethau ac yn hoff iawn o fynd allan i archwilio’r byd.
Ar adegau gall hi fod yn gryf ar y dennyn, yn enwedig pan mae ei thrwyn yn brysur yn sniffian popeth o’i chwmpas! Mae hi’n llawn hwyl ac yn sicr yn gi fydd yn gwneud ichi chwerthin bob dydd.
Mae Roxy yn dal i weithio ar ei sgiliau cymdeithasu ac fe fydd angen parhau gyda dosbarthiadau hyfforddi er mwyn helpu hi i ddatblygu’n gi oedolyn cytbwys.
Rydym yn chwilio am bobl sydd yn gyfarwydd â bridiau bully, sydd yn gallu cynnig strwythur, arweiniad a llawer o hwyl iddi. Gallai o bosib fyw gyda phlant yn dibynnu ar gyflwyniadau yn y ganolfan.

On a walk

On a walk

On a walk
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Roxy. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.