Cyfarfodwch â Gallagher!
Mae Gallagher yn gi bach Lurcher ifanc, tua 6 i 12 mis oed, a gyrhaeddodd i’n gofal ar ôl cael ei siomi gan y bobl a ddylai fod wedi ei gadw’n ddiogel. Er gwaethaf hyn, mae’n fachgen hapus a llawn hwyl sy’n caru bywyd ac sydd â natur dyner iawn.
Mae’r llanc coes-hir hwn yn llawn cymeriad ac yn chwilio am gartref llawn cariad, anturiaethau a digon o gyfleoedd i barhau i ddysgu am y byd o’i gwmpas. Mae Gallagher yn mwynhau gwneud ffrindiau newydd gyda chŵn eraill a byddai’n ffynnu mewn cartref sy’n fodlon buddsoddi amser yn ei hyfforddiant a’i ddatblygiad.
Fel unrhyw gi ifanc, mae Gallagher yn dal i adeiladu ei hyder ac yn dysgu pethau newydd bob dydd. Byddai’n elwa o fynd i ddosbarthiadau hyfforddi i’w helpu i ddatblygu’n gi oedolyn cytbwys ac i gryfhau’r berthynas gyda’i deulu newydd.
Rydym yn teimlo y gallai Gallagher fyw gyda phlant o bob oed, cathod, a chŵn eraill sydd wedi’u hysbaddu ac a fydd yn goddef ymddygiadau ci bach, yn dilyn cyflwyniadau llwyddiannus yn y ganolfan.
Mae Gallagher yn mwynhau ei deithiau cerdded, wrth ei fodd yn cael cwtsh ac yn sicr o werthfawrogi mynediad at ardal ddiogel gaeedig lle gall ymestyn ei goesau hir a mwynhau’r zoomie achlysurol.
Os ydych yn chwilio am gi ifanc melys a chariadus i ymuno â chi ar anturiaethau bywyd, gallai Gallagher fod yn gydymaith perffaith i chi..

Sitting down

Giving paw with style

Me and my bestie

Waiting for my treats

Tasty treat

Running to my bestie

Taking a break

Big yawn
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Gallagher. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Gallwch chi ein helpu i achub ac ailgartrefu ein cŵn.
Gwirfoddolwch i fynd ag un o'n cŵn am dro.
Comments are closed.