Diweddariad y cartref cŵn

Mae toriad mawr yn y pŵer yn y Cartref Cŵn ac nid yw’r rhyngrwyd, unrhyw gyfrifiaduron na TG yn gweithio. Mae’r ffonau’n cael eu dargyfeirio i ffôn symudol felly dylech ond ffonio os yw’r mater yn un brys er mwyn i ni allu delio â’r rhain mor gyflym â phosibl. Nid yw’r negeseuon e-bost yn cael eu monitor heddiw. Gobeithio bydd hyn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd y dydd ar 25 Chwef.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Dewch i ymweld â’r Cartref Cŵn

Oriau agor

Nid yw Cartref Cŵn Caerdydd ar agor i ddod i weld cŵn. Yn ystod y cyfnod clo welon ni’r manteision o gadw’r cytiau cŵn yn dawel ac ymlaciol i’r cŵn heb lif cyson o ymwelwyr yn cerdded o amgylch y cytiau.  Cewch apwyntiad gan aelod o staff i ddod i weld ci os cewch eich paru ag un ar ôl gwneud cais.  Rydyn ni ar gau i’r cyhoedd rhwng 12pm ac 1pm bob dydd, gan gynnwys ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Peidiwch â dod i’r Cartref Cŵn heb apwyntiad.

Mae Cartref Cŵn Caerdydd ar gau i’r cyhoedd rhwng 12 – 1pm bob dydd o’r wythnos, gan gynnwys dydd Sadwrn a dydd Sul.

Dydd ​Haf ​Gaeaf
Dydd Llyn 8am – 5pm 8am – 4pm
Dydd Mawrth 8am – 5pm 8am – 4pm
Dydd Mercher 8am – 5pm 8am – 4pm
Dydd Iau 8am – 5pm 8am – 4pm
Dydd Gwener 8am – 5pm 8am – 4pm
Dydd Sadwrn 8am – 5pm ​8am – 4pm
Dydd Sul 8am – 5pm ​8am – 4pm

*Mae’r amseroedd agor yn newid pan fydd y clociau yn newid​.

 

Dod o hyd i ni…

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Trefnwch eich siwrne atom gyda Traveline Cymru

Gyda Char

O Llandough Road (A4160) gadewch y gylchfan i yrru ar hyd yr ystâd ddiwydiannol gyda siop arddangos Porsche ar eich ochr dde. Parhewch i deithio ar y ffordd hon o dan drosffordd yr A4232 ac yna cymerwch y troad nesaf i’r dde. Mae’r Cartref Cŵn ar ddiwedd y ffordd ac mae arwyddion yn eich tywys ar hyd y lôn.

Os ydych yn defnyddio teclyn llywio lloeren defnyddiwch CF11 8TW (garej Porsche). Rydyn ni 2 funud o’r fan honno ac mae arwyddion i’ch cyfeirio aton ni.

Llywio gan ddefnyddio Google Maps

Brig

© Cartref Cŵn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddHygyrchedd