Bramble yw’r ci bach anniben hwn. Croesiad o ‘terrier’ yw ef; mae’n ifanc a thua blwydd oed. Cyrhaeddodd Bramble i’n gofal oherwydd ei fod yn crwydro ac fe ddaeth atom yn ddrewllyd iawn. Roedd braidd yn ddryslyd hefyd ynglŷn â’i amgylchfyd newydd. Fe wnaethon ni roi dipyn o ofod ac amser iddo, nes iddo ddechrau ymddiried ynom a nawr mae’n ffrind gorau i bawb. Gan ei fod yn fachgen ifanc mae’n chwareus iawn. Mae Bramble yn cyffroi cymaint pan gaiff fynd am dro a chael amser chwarae yn yr ardd. Mae ef wastad yn barod i gael antur.
Teimlwn y byddai’n well i Bramble fod mewn cartref prysur ac yn rhan o fywyd teuluol, yn rhywle lle bydd ei bobl o gwmpas y rhan fwyaf o’r dydd. Mae trigolion y Cartref Cŵn yn aml yn medru mynd yn ddibynnol wrth greu perthynas newydd, felly bydd helpu Bramble i dreulio amser ar ei ben ei hun yn rhan o’i gynllun hyfforddi yn ei gartref newydd.
Mae’n fachgen prysur, mae angen cartref prysur yn llawn gwibdeithiau a chyfleoedd i gadw ei ymennydd yn brysur.
Mae’n debyg y byddai Bramble yn elwa o gael ci arall fel ffrind, un a fyddai’n gallu cadw i fyny ag ef a goddef ei gastiau ci bach.
Rhaid i bob ci sy’n byw yn y darpar cartref fod wedi ei ysbaddu er mwyn osgoi unrhyw wrthdrawiadau gyda Bramble pan fydd yn mynd yn hŷn.
Byddem yn hapus i roi Bramble mewn cartref gyda phlant.
Gan fod côt Bramble yn lled-hir, bydd angen ymweliadau rheolaidd â’r parlwr trin cotiau cŵn arno er mwyn cadw a chynnal ei gôt.
Mae hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau yn y ganolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Bramble. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.