Cŵn defaid Almaenig yw Holly, ac mae hi’n fawr hefyd! Mae hi tua 5 mlwydd oed. Daeth i’n gofal ôl cael ei darganfod yn crwydro ar ei phen ei hun.
Mae Holly yn araf yn ennill y pwysau sydd ei angen arni i’w chael hi i faint iach. Rydyn ni’n trin ei haen farw o flew bob dydd. Unwaith y bydd Holly yn ddigon hyderus, rydym yn gobeithio y bydd hi’n mwynhau diwrnod sba.
Mae Holly’n un dda am gerdded ar y tennyn a bydd yn gwneud yn siŵr eich bod yn dal i fyny â hi. Mae hi’n ferch gyflym ac weithiau gall fod yn gryf ar dennyn os yw’n sylwi ar rywbeth diddorol yn y pellter.
Mae Holly yn llawn cariad ac mae’n ifanc yn ei chalon.
Byddem yn cynghori bod Holly’n cael ei chofrestru ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi i helpu i adeiladu bondiau gyda phobl a chŵn newydd.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Holly. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.