Ci tarw (‘bulldog’) 4 oed yw Luna a gyrhaeddodd i’n gofal o ganlyniad i brofedigaeth. Yn ffodus i Luna fe wnaethom gamu i’r adwy yn ei hawr o angen. Pan gyrhaeddodd Luna atom, roedd hi’n ofnus iawn o’i hamgylchfyd a’i phobl newydd. Fe wnaethon ni ffrindiau â hi yn eithaf cyflym trwy roi maldod iddi a chyw iâr wedi’i goginio!
Mae Luna ar feddyginiaeth oherwydd haint ar ei chlust ar hyn o bryd; mae hi hefyd yn cael golchi’r croen o gwmpas ei chlustiau bob dydd gyda hylif gwrthfiotig oherwydd ei bod wedi bod yn crafu sydd wedi arwain at grachen a chroen tost. Mae gan Luna hefyd rai clwyfau bach i’w choes. Ar y cyfan y mae hi’n gwella’n dda, a chredwn ei bod hi bendant yn teimlo’n llawer gwell. Mae hi’n camu yn ei blaen yn fwy sionc nawr!
Mae hyder Luna yn cynyddu bob dydd. Gyda rhywfaint o gefnogaeth mae hi’n ymlacio ac yn mwynhau ei throeon. Mae Luna yn dipyn o gariad sydd wrth ei bodd yn cael magad a chwtsh gyda chi. Gallai Luna fyw gyda chi arall, o bosibl, yn seiliedig ar gyflwyniadau.
Gallai Luna hefyd fyw gyda phlant sy’n parchu ei gofod.
Comments are closed.