Yn cyflwyno ein ferch prydferth, Rose, Labrador 10 mis sydd wedi ymuno â ni ar ôl i’w pherchnogion methu I edrych ar ei hôl hi. Oherwydd hyn mae Rose yn swil ac yn poeni o fewn amgylchedd y cwteri, felly mae wedi bod yn aros gyda aelod o staff.
Yn ôl ein aelod o staff mae Rose yn:
“ferch hyfryd a fydd yn mwynhau cartref lle gellir ymarfer gwaith arogli a cwtch ar y sofa. Mae Rose yn gwybod I fynd i’r ty Bach tu Allan ac yn dod ymlaen yn dda gyda’r cathod. Mae’n caru cwtch ac mi fydd angen rhywun o gwmpas y rhan fwyaf o’r amser er mwyn iddi gweithio ar ei sgiliau a hyder
Tegyn giraffe yw ei ffefryn, mae’n cysgu a chario giraffe o gwmpas y ty”
Yn anffodus mae Rose wedi dangos arwyddion o drawma yn gyslltiedig a’i gorffennol. Mae ofn ganddi o wisgo harnes yn ogystal a synau a symudiadau uchel a gloi. Yn ystyried hyn, bydd angen I berchnogion newydd Rose fod yn garedig, amyneddgar ac ymrwymo I weithio gyda hi ar ei ofnau a phryderon, yn araf.
Mae hefyd angen hyfforddiant dennyn ar Rose, sy’n tueddi i dynnu pryd mae’n gweld cwn gan ei bod yn gyffroes. Mae hefyd yn gallu bod yn nerfus o amgylch dynion ddieithr.
Mae’n bosib gall Rose byw gyda cwn eraill yn seiliedig ar ragarweiniadau ac mi fydd angen iddi mynychu dosbarthiadau hyfforddi i wella ei sgiliau a hyder.

Playing with her favourite toys

Snuggly time

On my walks

Practicing my wait

Car ride

Waiting to go for a walk

Cuddles
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Rose. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.