Mae’r Bully, Buddy, yn fachgen tua 2-3 oed. Daeth i’n gofal fel ci strae ar ôl cael ei ddarganfod yn crwydro ar ei ben ei hun.
Mae Buddy wedi gwybod beth yw cariad ar ryw adeg yn ei fywyd, mae hefyd wedi gwybod beth yw tor-calon gan ei fod mor drist pan gyrhaeddodd. Fe wnaethom bopeth o fewn ein gallu i’w wneud yn hapus. Cyn bo hir, roedd Buddy yn hawdd iawn i’w drin. Ef yw’r bachgen mwyaf annwyl ac mae ganddo enaid sensitif. Byddai angen amser ar Buddy i addasu. Rydym eisiau i Buddy gael cartref ei hun. Gallai o bosibl fyw gyda ci benywaidd o faint tebyg sydd wedi ei hysbaddu.
Mae Buddy yn cerdded yn dda ar dennyn, mae angen rhywfaint o sicrwydd arno mewn amgylchedd newydd. Mae wedi ymateb yn dda gydag anogaeth.
Mae’n addas ar gyfer cartref gyda phlant 16+.
Mae angen amgylchedd tawel arno er mwyn iddo allu addasu yn ei amser ei hun.
Mae’n gi cariadus iawn
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Buddy. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.