Mae’r dywysoges Narla yn ferch ifanc, hardd, llawn bywyd.
Mae’n frid croes mawr heb ymwybyddiaeth ofodol o gwbl. Mae’n debyg iawn i darw mewn siop lestri!
Mae Narla yn gallu bod yn sensitif wrth gwrdd a phobl newydd ac fe fydd angen amser arni i ymddiried. Pan fydd yn gyfforddus cewch eich gwobrwyo wrth wylio ei natur chwareus a chariadus.
Ar hyn o bryd mae Narla yn chwilio am rywun sydd a’r amser i adael iddi setlo yn ei chartref newydd yn ol y galw. Fe fydd angen cartref tawel arni a rhywun sydd adref rhan fwyaf o’r amser.
Mae’n bosibl y bydd ei hanghenion cartrefol yn newid felly os gwelwch yn dda cadwch lygaid ar y wefan.
Comments are closed.