Mae Max yn frid lab/saluki cymysg ac yn fachgen llawn egni. Teimlwn ei fod tua 5 i 7 mlwydd oed.
Mae wrth ei fodd yn defnyddio ei drwyn i ymchwilio tra allan yn crwydro a dod o hyd i aroglau newydd.
Mae wrth ei fodd yn chwarae gydag ei degannau a’i hoff gem i’w cwrso.
Fe fyddai Max yn arbennig mewn cystadlaethau ystwythder ac mae wrth ei fodd wrth gael ei herio. Teimlwn y byddai hyfforddiant aroglau yn addas er mwyn datblygu y sgiliau yma.
Dydy sgiliau cymdeithasol ddim yn dod yn naturiol i Max ac fe fydd rhaidi i’w berchnogion newydd weithio yn yr ardal yma.
Gan fod Max yn dwli am ei fwyd , fe fydd hyn yn helpu’n eithriadol wrth iddo ddysgu sgiliau newydd.
Fe fydd yn bosib iddo fyw gyda phlant oedran 16 a throsodd yn seiliedig ar gyflwyniadau.
Comments are closed.