Ci bach llawn hwyl yw Max, sef Jack Russell ifanc. Mae tua dwy flwydd oed. Bellach, mae Max yn barod i gael anturiaethau newydd a chreu atgofion gyda’i bobl ef ei hun. Mae’n dipyn o berl. Mae Max yn fachgen prysur, sy’n hapus beth bynnag y bo. Os ewch am dro hirfaith bydd ef wrth eich ochr yr holl amser. Yna, pan fyddwch yn ymlacio a chael cwtsh a maldod, ef fydd yr un a aiff o dan y flanced!
Mae Max yn deyrngar ac yn awyddus i blesio. Byddai’n debygol o elwa o gael gwneud rhyw fath o weithgaredd gan ei fod yn fachgen mor ddeallus.
Fel gyda phob ci achub rydym yn cynghori eu bod yn ymuno â chwrs hyfforddi sylfaenol er mwyn helpu creu perthynas.
Os ydych chi’n chwilio am gi bach hapus a llon, Max yw’r un i chi. Beth am i ni beidio â’i gadw’n disgwyl yn rhy hir?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Max. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.