Dewch i gwrdd â’n talp o siocled, Lucia, gast ifanc yn perthyn i’r brîd ci tarw (‘bulldog’) a ddaeth atom oherwydd ei bod yn crwydro. Fel cymaint o gŵn anffodus roedd ei chlustiau hyfryd wedi cael eu torri i ffwrdd ac mae’n amlwg ei bod hi wedi cael lot o gŵn bach hefyd. Mae Lucia yn barod i ddechrau o’r newydd ac ymgartrefu gyda phobl newydd.
Mae Lucia yn ferch hynod o chwareus sy’n caru unrhyw beth sy’n gwichian! Byddai’n elwa o gartref prysur lle bydd ganddi ddigon o le ar gyfer gwibio o gwmpas am gyfnodau. Efallai y gall Lucia fyw gyda phlant 8+ sydd wedi arfer â chwarae cŵn o’r brîd ci-tarw.
Caiff Lucia ei gor-lethu rhywfaint pan fo llawer o gŵn o gwmpas, ac mae’n amlwg nad yw hi wedi cael llawer o gyfle i gael cyswllt addas â nhw. Byddai’n elwa o fynychu dosbarthiadau cymdeithasu cŵn i’w helpu i deimlo’n fwy cyfforddus. Gallai Lucia o bosibl fyw gyda chi brîd tarw gwrywaidd wedi ei ysbaddu, ond byddai gofyn gwneud sawl cyflwyniad yn gyntaf a gofyn cael perchnogion sy’n brofiadol â chael nifer o gŵn brîd tarw yn y cartref. Credwn y byddai hi’n llawer mwy addas i fod yr unig gi yn y cartref i gadw ei byd yn syml.
Nid yw Lucia yn gallu byw gyda chathod nac anifeiliaid bach eraill y gallai hi gyrraedd atynt.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Lucia. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.