Croeso i Dede i’r gwesty. Mae hi’n gi tarw Ffrengig (‘French bulldog’) 8 oed a gyrhaeddodd i’n gofal ar ôl cael ei darganfod yn crwydro ar ei phen ei hun. Mae Dede wedi setlo’n dda ac mae bellach yn barod i ddod o hyd i’w chartref parhaol. Mae’n amlwg fod Dede wedi cael sawl torllwyth o gŵn bach yn ystod ei bywyd. Mae hi bellach yn edrych ymlaen at ei hymddeoliad.
Merch gytbwys yw Dede. ‘Dyw hi byth yn bell o’ch ymyl, oni bai fod arogl da i’w arogli!
Mae Dede yn ferch chwareus, sydd wrth ei bodd yn taflu ei theganau o gwmpas a’u dal. Ei hoff degan yw ei chyw iâr!
Mae Dede wedi dangos moesau da gyda phobl ac wrth fynd heibio cŵn eraill. Mae Dede yn aros am driniaeth ddeintyddol ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael ei wneud gyda milfeddyg ein helusen.
Bydd Dede yn mynd ar faeth meddygol hyd nes y bydd y driniaeth yn cael ei chwblhau. Unwaith y bydd y milfeddyg yn hapus gyda’i hadferiad bydd modd ei hailgartrefu.
Mae Dede wedi’i hyfforddi’n rhannol â chrât. Bydd angen iddi gael ei chofrestru gyda dosbarthiadau hyfforddi er mwyn creu perthynas gyda’i theulu newydd.
Gallai Dede o bosibl fyw gyda phlant, cŵn wedi eu hysbaddu a chathod eraill.
Bydd pob cyflwyniad yn cael ei wneud yn y ganolfan. Os gwelwch yn dda a wnewch chi nodi ein bod yn argymell bod cŵn yn cael brechiadau blynyddol yn ogystal â brechiadau peswch cenel.
Comments are closed.