Bobby yw’r bachgen hardd hwn. Mae’n 8 mlwydd oed. Cyrhaeddodd Bobby druan i’n gofal oherwydd ei fod yn crwydro; yn anffodus ni hawliwyd ef gan ei berchnogion blaenorol.
Ymddengys nad yw Bobby’n hidio ac mae wedi addasu’n dda i’w amgylchedd newydd. Mae Bobby yn llawn cymeriad, po fwyaf cyfforddus yw ef, hapusaf yn y byd yw e.
Pan gyrhaeddodd Bobby atom i ddechrau, roedd yn cario llawer gormod o bwysau ac yn brin o hyder. Yn ystod troeon mae ei hyder wedi gwella’n aruthrol; mae Bobby’n hoffi cyfarch pobl sy’n gwenu arno trwy siglo’i gynffon.
Mae Bobby yn chwilio am gartref gyda rhywun sydd gartref y rhan fwyaf o’r amser.
Mae’n debyg y byddai’n mwynhau’r bywyd awyr agored gyda llawer o anturiaethau. Mae Bobby’n cerdded yn dda ar dennyn; ar adegau gall fod yn gryf os yw’n clywed arogl da.
Byddai Bobby’n gweddu cartref gyda phlant hŷn yn eu harddegau 16+ oed.
Mae Bobby yn ddewis amlwg ar gyfer unrhyw un sy’n caru ci defaid (Collie). Mae’n ddeallus, yn olygus tu hwnt a dim ond eisiau cartref ei hun.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Bobby. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.