Croesiad o Pug a Jack Russell yw Chunk, sy’n 6 mlwydd oed . Yn anffodus, mae e’n gi arall eto fyth sydd wedi bod yn crwydro a neb wedi ei hawlio. Mae bellach yn barod i ddod o hyd i’w gartref parhaol, lle y gall greu bywyd newydd yn llawn antur a chariad.
Mae Chunk yn fachgen hollol wych. Mae ganddo natur ardderchog, mae’n cyfarch pawb fel ei ffrind gorau ac mae wrth ei fodd yn cael chwilota yn y blwch teganau.
Mae Chunk yn gerddwr gwych ac mae bob amser yn barod am gyfle i arogli a chrafu!
Hyd yn hyn, mae wedi dangos ei fod yn ddi-fai o ran ei foesau a’i ymddygiad.
Fel gyda phob ci arall, ta waeth pa mor dda yw eu hymddygiad, mae mynychu dosbarthiadau hyfforddi yn hanfodol. Mae’n ffordd wych o helpu cŵn greu perthynas gyda’u pobl newydd.
Comments are closed.