Jojo yw’r ferch hardd hon. Ci Tarw Ffrengig (‘French bulldog’) yw hi sydd tua 6-7 oed. Mae Jojo yn ei blodau ac mae hi’n barod am anturiaethau newydd. Mae Jojo yn cerdded yn wych, boed law neu hindda, mae hi bob amser yn awchu i fynd. Ers bod gyda ni, mae hi wedi magu hyder. Mae hi’n dipyn o gariad unwaith y bydd hi’n gyfforddus.
Nid oes ots gan Jojo gael golchi ei wyneb a’i phen ôl yn ddyddiol. Rydyn ni’n meddwl ei bod hi wedi deall ei bod hi’n cael danteithion blasus am fod yn ferch dda!
Mae ein merch yn gyfeillgar iawn ac yn ymateb yn dda. Byddai’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn gwella sgiliau cymdeithasol a magu mwy o hyder.
Gallai fyw, o bosibl, gyda phlant sydd wedi arfer â’r brîd Ci Tarw Ffrengig. Byddem hefyd yn hapus i gyflwyno cŵn sydd eisoes yn byw yn y darpar cartref (wedi eu hysbaddu) a chathod iddi.
Rydym bob amser yn cynghori bod cŵn yn cael eu brechiadau blynyddol yn ogystal â’u brechiadau peswch cenel.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Jojo. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.