Ci brîd croes gyda wyneb meddal yw Kilo a gyrhaeddodd i’n gofal oherwydd ei fod yn crwydro. Mae ef tua 7 mlwydd oed ac yn dipyn o gariad. Dangosodd fod ganddo foesau da a’i fod yn deall gorchmynion sylfaenol. Teimlwn y byddai Kilo yn elwa o gael cartref lle mae rhywun gartref y rhan fwyaf o’r amser. Gan ei fod yn ŵr aeddfed, cysuron cartref yw’r brif flaenoriaeth iddo. Mae’n caru ei droeon. Byddai’n fuddiol iddo gael ychydig o gymorth gyda dysgu sut i gerdded ar dennyn gan ei fod yn medru tynnu ar adegau.
Ymddengys fod gan Kilo ddiddordeb mewn cŵn eraill wrth iddo fynd heibio iddynt. Teimlwn y gallai fyw gyda chi benywaidd tawel wedi ei hysbaddu. Bydd hyn yn seiliedig ar gyflwyniadau.
Mae gan Kilo awyrgylch hapus o’i gwmpas ac mae’n derbyn pethau fel y deuant. Mae’n fachgen mawr a bydd angen rhywun sy’n gallu ei reoli pan fo ar dennyn.
Rydym bob amser yn cynghori bod cŵn wedi’u cofrestru ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi i helpu creu perthynas. Byddem hefyd yn argymell bod cŵn yn cael eu brechiadau blynyddol yn ogystal á’u brechiadau peswch cenel.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Kilo. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.