Is-gapten Dan Taylor ar ddyletswydd. Mae e’ tua 2 flwydd oed a chyrhaeddodd i’n gofal yn wreiddiol oherwydd ei fod yn crwydro.
Yn anffodus, methodd Dan ymgartrefu yn ei gartref newydd, a phenderfynwyd bod angen iddo fod yn unig blentyn. Mae Dan yn fachgen gwych sy’n ffynnu o gael sylw. Yn nodweddiadol o’r brîd Dachshund bydd Dan yn rhoi gwybod i bobl ei fod ef yn y cyffiniau; bydd angen sicrwydd a help ar Dan i ddysgu peidio â chyfarth ar bobl a chŵn pan fydd ef allan.
Mae Dan yn enaid sensitif, bydd yn rhoi ei galon i’w deulu newydd os caiff gartref diogel a chariad. Bydd ef yn llythrennol yn glynu atoch fel felcro unwaith y byddwch wedi creu perthynas. Mae’n fachgen hapus iawn sydd wrth ei fodd yn chwarae a gwibio, ond eto dim ond pan fydd yn teimlo’n gyfforddus.
Bydd angen cymorth ar Dan er mwyn iddo fagu hyder. Mae cartref gyda phrofiad Dachshund yn dipyn i’w holi, ond bydd angen cartref arno sy’n deall a chydymdeimlo ag ef fel y gall flodeuo yn ei bwysau ei hun. All Dan ddim byw gyda chŵn na phlant. Mae angen cartref gydag oedolion dros 18 mlwydd oed yn unig arno.
Dim ond 3 choes sydd gan Dan ond gwyliwch ef yn mynd! Gall y bachgen hwn redeg!
Comments are closed.