Melchior
Estynnwch groeso i Melchior i’r gwesty. Mae’r bachgen golygus hwn yn 3 oed, cyrhaeddodd i’n gofal oherwydd ei fod yn crwydro. Mae Melchior wedi setlo i mewn i’w gartref newydd dros dro ac mae’n dangos yr hyder newydd sydd ganddo. Mae wrth ei fodd yn tyrchu yn y blwch teganau ac mae’n dysgu trwco tegan am damaid o fwyd. Yn bendant mae’n well ganddo fwyd o’i gymharu â chwarae; mae’n ymgeisydd gwych ar gyfer ei hyfforddi. Nid ydym yn siŵr pa fath o orffennol y cafodd Melchior ond mae’n amlwg ei fod wedi profi cariad ar ryw adeg yn ei fywyd. Mae Melchior yn cymryd ychydig o amser i ddod i adnabod pobl newydd; cyn gynted ag y bydd yn gyfforddus bydd ef yn dipyn o gariad bach.
Bydd angen cartref araf a chyson ar Melchior, un sydd ddim yn rhy brysur a llawn bwrlwm. Rydym yn gobeithio dod o hyd i gartref gyda chi benywaidd sy’n gallu ei helpu i wneud cynnydd gyda byw mewn cartref a chael cwmni gwych.
Byddai angen i unrhyw gŵn sy’n byw yn y darpar cartref fod wedi eu hysbaddu.
Gan ei fod yn perthyn i’r brîd bracycephalig, cofiwch fod angen glanhau y plygiadau wyneb a’r pen ôl bob dydd.
Gwneir yr holl gyflwyniadau yn y ganolfan, felly bydd angen i ymgeiswyr fod yn barod i deithio draw atom.
Ar hyn o bryd rydym yn teimlo y bydd cartref gyda phlant hŷn sy’n 16+ yn fwyaf addas ar gyfer Melchior. Dros amser ac yn y cartref iawn bydd yn ffynnu a daw yn gyfaill i bawb.
Comments are closed.