Dywedwch helo wrth Bodie yr un hardd. ‘Lurcher’ cyfeillgar iawn 3 blwydd oed yw e’ a fydd angen cartref llawn cariad lle gall ymlacio ar soffa a mynd allan am dro braf. Roedd e’n denau iawn pan ddaeth e aton ni ond mae’n magu pwysau’n araf bach ac yn mwynhau ei brydau bwyd a’r sylw mae’n ei gael. Mae ganddo natur dawel/di gynnwrf ond gan taw lurcher yw e bydd yn hoffi mynd am redad da a bydd angen ymarfer corff arno i ffwrdd o’r tennyn mewn lle diogel.
Cawsom wybod ei fod wedi byw gyda chŵn eraill o’r blaen, felly gall e o bosib fyw mewn cartref gyda chŵn eraill. Mae’n debyg y bydd yn fwy addas i gartref gyda phlant hŷn sy’n parchu ei ofod.
Mae Bodie yn ei flodau a chwilio am ei gartref parhaol yw’r peth nesaf ar ei agenda!
Comments are closed.