Croesiad ci defaid (‘collie’) a spaniel yw’r dwten Emma. Daethpwyd o hyd i Emma wedi’i gadael mewn llecyn coediog gyda’i 3 brawd a chwaer (dyma gredwn ni). Maent bellach yn barod i ddod o hyd i gariad a hapusrwydd mewn cartrefi parhaol. Mae Emma tua 1-2 oed. Mae ganddi got lled-hir hardd a fydd angen ei frwsio’n gyson er mwyn osgoi clymau.
Mae Emma wedi setlo’n dda; ar ôl cyrraedd roedd y pedair merch, yn ddealladwy, yn swil. O ystyried y trawma maent wedi ei ddioddef maent wedi dygymod a’i sefyllfa newydd yn gyflym iawn.
Roedd Emma yn anniben ac yn rhy ysgafn o ran ei phwysau pan ddaeth hi aton ni. Gyda bwyd rheolaidd a llawer o gariad mae hi wedi blodeuo. Mae hi’n dipyn o gariad, yn mwynhau ei throeon ac amser chwarae. Sicrhewch, os gwelwch yn dda, fod llawer o faldod a sylw yn cael ei roi yn ystod y tro!
Gallai Emma o bosibl fyw gyda phlant ac anifeiliaid anwes eraill sydd wedi eu hysbaddu.
Bydd yr holl gyflwyniadau yn cael eu cynnal yn ein canolfan.
Byddai dosbarthiadau hyfforddi yn helpu creu perthynas ac adeiladu hyder Emma.
Gan ei bod yn gi gwaith o frîd cymysg mae’n debyg y byddai Emma yn elwa o fynychu dosbarth chwaraeon fel ystwythder.
.
Comments are closed.